1. Eglwys Sant Pedr

Adeiladwyd Eglwys San Pedr gan y meistri haearn Thomas Hill a Samuel Hopkins ym 1804. Am dros 200 mlynedd mae wedi chwarae rhan bwysig ym mywyd ysbrydol a diwylliannol cymuned Blaenafon. Mae gan yr Eglwys lawer o nodweddion y diwydiant haearn lleol, gan gynnwys siliau haearn bwrw ar y drws a'r ffenestri, a bedyddfaen wedi ei wneud o haearn bwrw.

Hyd yn oed yn farw, roedd yr haearn feistri am adael eu marc. Edrychwch o gwmpas ac fe welwch bum bedd gyda chaeadau haearn bwrw.

Cerddwch yn araf yn ôl tuag at y brif giât ac edrychwch ar y beddau ar y chwith. Yma fe welwch bum bedd gyda chaeadau haearn bwrw. Ewch ati i chwilio am fedd gydag enw 'Sarah Bissel'.

Intro St Peters Churchyard
Blaenavon World Heritage Site logo

This website is optimised for portrait mobile devices. Please rotate your device or resize your browser.