10. Beddau Heb Enwau

Cynyddodd poblogaeth Blaenafon yn sylweddol yn ystod oes Victoria. Rhaid oedd ymestyn y fynwent yn y 1880au a'r 1890au i gwrdd â'r galw am leoedd claddu. Cafodd llawer eu lladd gan glefydau. Roedd achosion o'r frech goch yn ystod y 1870au yn gyffredin iawn, ac ym 1870, bu farw 52 o’r frech goch mewn un mis yn unig. Ym 1877 cofnodwyd tua 1,500 o achosion o'r frech goch ym Mlaenafon, gyda 24 o farwolaethau. Roedd y frech wen a Theiffws hefyd yn glefydau a ofnwyd. Y bobl lleiaf cyfoethog a ddioddefodd fwyaf o’r clefydau. Erbyn hyn, gorwedda llawer ohonynt yn angof yn eu beddi heb eu marcio trwy gydol y fynwent.

Unmarked Graves
Blaenavon World Heritage Site logo

This website is optimised for portrait mobile devices. Please rotate your device or resize your browser.