Capeli a chrefydd
Prif eglwys Anglicanaidd (Eglwys Lloegr) Blaenafon oedd San Pedr, a gafodd ei hadeiladu gan yr haearn feistri ym 1804-05. Fodd bynnag, ni addolai’r mwyafrif helaeth o weithwyr Blaenafon a'u teuluoedd yn yr eglwys hon. Addoli yn nifer o gapeli’r dref fyddent hwy yn ei wneud. Byddai’r Capelwyr yn cael eu galw’n anghydffurfwyr ac ymhlith yr enwadau roedd Bedyddwyr, Methodistiaid ac Annibynwyr.
Roedd Capeli yn adeiladau pwysig lle byddai pobl yn mynegi eu credoau Cristnogol dwys. Roeddent hefyd yn ganolfannau dysgu gydol oes, canolfannau adloniant, gwleidyddol a diwylliannol. Erbyn diwedd y 19eg, y capeli oedd yr ychydig fannau yn Ne Cymru ddiwydiannol lle defnyddiwyd yr iaith Gymraeg.
Ym Mlaenafon nos Sadwrn cynhaliodd band o fechgyn ifanc rhwng pedair ar ddeg ac un ar bymtheg oed gyfarfodydd gweddi mewn gwahanol leoedd ar y prif strydoedd. Toc cyn un ar ddeg o'r gloch roeddent yn cynnal cyfarfod yn William Street, pan aeth dyn meddw i'w plith a cheisio canu. Ar unwaith dechreuodd y bechgyn ifanc weddïo drosto, ac o'r diwedd gofynnodd y dyn meddw iddynt fynd ag ef adref a chael cyfarfod yno… Parhaodd y cyfarfod bach hwn tan ymhell wedi 11 o'r gloch, a chafodd y dyn meddw ei achub. (Cyfieithiad)
Evening Express, 11 Mawrth 1905