Tref o obeithion coll a dyfodol o'r gorffennol?
Arweiniodd dirywiad y diwydiannau glo a dur yng Nghymru yn yr 20fed ganrif filoedd o bobl i adael Blaenafon i chwilio am waith mewn mannau eraill. Roedd y newid economaidd a chymdeithasol yn golygu bod Blaenafon yn dioddef, a gwelwyd nifer o siopau, busnesau, tafarndai a chapeli yn cau. Erbyn diwedd yr ugeinfed ganrif, roedd rhai o adeiladau hanesyddol y dref wedi cael eu dymchwel a gorchuddiwyd nifer o siopau ac adeiladau â phren.
Yn y flwyddyn 2000, cydnabuwyd Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon fel safle o bwysigrwydd byd-eang a daeth yn Safle Treftadaeth Byd UNESCO. Ers hynny gwnaed ymdrechion i adfywio’r economi lleol trwy hyrwyddo twristiaeth ac adfer adeiladau hanesyddol. Denwyd busnesau newydd i’r dref, sydd unwaith eto yn fan lle mae pobl am fyw, ymweld â hi a buddsoddi ynddi!
Mae'r ardal o amgylch Blaenafon yn dystiolaeth huawdl ac eithriadol o amlygrwydd De Cymru fel prif gynhyrchydd haearn a glo'r byd yn y 19eg ganrif. Gellir gweld yr holl elfennau angenrheidiol yn y fan a'r lle - pyllau glo a mwynau, chwareli, system reilffordd gyntefig, ffwrneisi, cartrefi'r gweithwyr, a seilwaith cymdeithasol eu cymuned.
UNESCO 2000