Hunanwella

Yng Nghyfnod Victoria, daeth gweithwyr Blaenafon yn awyddus i wella’u hunain. Sefydlwyd Cymdeithasau Cyd-wella, i helpu pobl i ddysgu. Cynhaliwyd Darlleniadau Ceiniog yn ysgol y Babanod, yn neuadd y dref ac yn y capeli, lle byddai pobl yn talu ceiniog i wrando ar nofel yn cael ei darllen yn uchel. Roedd hyn yn rhoi cyfle i bobl na allai ddarllen nac ysgrifennu fwynhau llenyddiaeth ac ehangu eu gwybodaeth. Sefydlwyd llyfrgelloedd ac ystafelloedd darllen, yn cynnwys yn Broad Street.

…nawr, yn hytrach na bod dynion yn gallu troi at y tafarndai i dreulio'u nosweithiau, gallant fynd i'r ystafell ddarllen, ac yn lle ysmygu ac yfed, gallant dreulio'u hamser yn darllen ac yn gwella eu hunain, ac yna mewn amser i ddod efallai y byddant yn edrych yn ôl a diolch yn eu calonnau i'r bobl hynny a wnaeth sefydlu peth mor dda. (Cyfieithiad)

‘Aelod Ifanc’ 1859

Sefydlwyd Sefydliad y Gweithwyr a Llyfrgell Blaenafon ym 1883 ac agorwyd Neuadd y Gweithwyr newydd ym 1895. Roedd gan y neuadd, y talwyd amdani gan y gweithwyr, lyfrgell, ystafelloedd darllen, biliards ac awditoriwm trawiadol. Daeth y neuadd yn ganolbwynt i fywyd y gymuned yn gyflym. Fe'i defnyddiwyd ar gyfer cyngherddau, eisteddfodau, te-partis, basarau a chyfarfodydd gwleidyddol.

1 / 10
  • The Blaenavon Infants School where the Penny Readings were held (Acknowledgement: N.A. Matthews)
  • Construction started on Blaenavon Workmen’s Hall in 1893 (Acknowledgement: Pat Morgan Collection)
  • The Workmen’s Hall was opened in January 1895 (Acknowledgement: Pat Morgan Collection)
  • The Workmen’s Hall instantly became the heart of the community (Acknowledgement: Pat Morgan Collection)
  • Blaenavon Workmen’s Hall ‘Free of Debt’ 1912 (Acknowledgement: Pat Morgan Collection)
  • The Workmen’s Hall was used by many organisations in the town, including churches and chapels. This programme from 1910 provides details of a Baptist concert (Acknowledgement: Blaenavon Community Museum)
  • An advertisement for Rossini’s ‘Stabat Mater’ held by the Blaenavon and District Choral Society at the Workmen’s Hall in 1920 (Acknowledgement: Blaenavon Community Museum)
  • A poster for the Blaenavon Chamber of Trade Eisteddfod held at the Workmen’s Hall in 1918 (Acknowledgement: Blaenavon Community Museum)
  • Blaenavon Workmen’s Hall in the early 20th Century (Acknowledgement: Pat Morgan Collection)
  • Blaenavon Workmen’s Hall remains a central part of town life today (Acknowledgement: N.A. Matthews)