Siopau a busnesau
Erbyn y 1870au, roedd Broad Street a’r strydoedd o’i hamgylch yn gartref i nifer o siopau, busnesau a thafarndai. Ymhlith y siopau roedd groseriaid, cigyddion, siop deunydd ysgrifennu, gwystlwyr, gemyddion, gwneuthurwyr oriorau, dilledyddion, gwneuthurwyr esgidiau, cryddion, siopau losin a fferyllwyr. Erbyn dechrau'r 20fed ganrif, roedd gan y dref hefyd siopau pysgod a sglodion, bwytai a siopau dodrefn.
Byddai perchnogion y siopau yn cystadlu i ddenu cefnogaeth y boblogaeth leol o lowyr, gweithwyr dur a’u teuluoedd. Masnachwyr annibynnol oedd yn rhedeg mwyafrif y siopau, ond roedd rhai yn enghreifftiau cynnar o ‘siopau cadwyn’, yn eu plith Maypole Dairy a’r India and China Tea Company.
…roedd tystiolaeth ddigamsyniol o'r Nadolig yn nesáu i'w gweld ym mhob man yn ystod rhan olaf yr wythnos. Ymddengys bod y groseriaid, y dilledyddion, y cigyddion a'r siop deunydd ysgrifennu wedi gwneud eu gorau glas i ddangos y gorau o bethau da'r tymor. (Cyfieithiad).
Monmouthshire Merlin, 29 Rhagfyr 1871