Darganfod mwy

Adnoddau Ar-lein

Os hoffech chi ddarganfod mwy am hanes canol tref Blaenafon, rhowch glic ar Hanes Treflun Blaenafon.

Os oes awydd gwneud rhywfaint o ymchwil eich hun arnoch, beth am bori drwy rai papurau newydd lleol?

I weld Mapiau Degwm yr ardal o'r 1840au a'u cymharu â mapiau diweddarach yr ardal ewch i https://places.library.wales/

Mae cyfeirlyfrau masnach hanesyddol yn rhoi rhyw syniad o'r ystod amrywiol o fusnesau ym Mlaenafon yn y 19eg a'r 20fed ganrif. Gellir gweld y rhain trwy ddilyn y dolenni canlynol:

Lleoedd Defnyddiol

Mae Amgueddfa Gymunedol Blaenafon, sydd wedi ei lleoli yn Neuadd y Gweithwyr hanesyddol, yn lle gwych i ddarganfod mwy am ganol y dref, capeli lleol, cymdeithasau cyfeillgar a threftadaeth gerddorol y dref. Mae’r amgueddfa hefyd yn cadw cofnodion hanesyddol a all eich helpu i bori’n ddyfnach i orffennol y dref.

Mae Archifau Gwent yng Nglyn Ebwy yn cadw nifer o ddogfennau a mapiau sy’n gysylltiedig â Blaenafon. I ddarganfod mwy ewch i www.gwentarchives.gov.uk

Mae mynegai o ddeunydd archifol i’w gael ar http://discovery.nationalarchives.gov.uk

Adnoddau Eraill

Mae yna hefyd daflenni cerdded sy'n nodi teithiau o amgylch Canol Tref Blaenafon. Mae'r rhain ar gael am ddim o Ganolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon neu gellir eu lawr lwytho yma.

Mae ap Pasbort Digidol Blaenafon yn cynnwys e-lwybr o amgylch canol y dref, dan arweiniad ‘Lewis Browning’, glöwr a hanesydd lleol a oedd yn byw ym Mlaenafon yn oes Fictoria.