Twf Broad Street
Ym 1840, fe wnaeth dyn busnes o’r enw John Griffith Williams sefydlu marchnad dan do gyntaf Blaenafon. Adeiladwyd heol newydd, i gysylltu’r farchnad â’r gwaith haearn. O fewn 30 o flynyddoedd, roedd yr heol newydd, Broad Street, yn llawn siopau. Daeth pobl o bell ac agos (yn cynnwys o dramor) i sefydlu busnesau. Trwy gydol Oes Victoria, roedd y dref yn fwrlwm o weithgaredd ac yn cynnal ymhell dros 150 o fusnesau, a oedd yn darparu popeth oedd ei angen ar y gymuned.
Agorwyd y Tŷ Marchnad newydd ym Mlaenafon ddydd Sadwrn diwethaf, sydd, fel adeilad sylweddol, braf, yn glod mawr i’r rheini a aeth ati i'w greu… mae'r stondinau wedi eu gosod mewn ffordd chwaethus, ac mae llwybr ffordd newydd ar y gweill, ychydig yn is na stablau'r Cwmni Haearn i'r Farchnad.....Roedd y farchnad yn gwerthu cyflenwad rhagorol o gig, llysiau, esgidiau a llestri pridd, ac roedd y cyfan yn cael ei werthu'n gynnar iawn. (Cyfieithiad)
Hereford Times, 30 Mai 1840