Bywyd dinesig
Roedd gan nifer o bobl oedd yn berchen ar siop ym Mlaenafon, rôl flaenllaw ym mywyd cyhoeddus. Roeddent yn gwasanaethu mewn llywodraeth leol a helpu i reoli materion y dref a oedd yn ehangu. Gwasanaetha rhai fel Ynadon gan wrando ar achosion yn Llys Heddlu Blaenafon.
Roedd dynion busnes hefyd yn sbardun i sefydlu amwynderau pwysig fel y gwaith dŵr, y gwaith nwy, goleuadau stryd a’r gwasanaeth tân – yr oedd angen pob un ohonynt ar fusnesau lleol. Ffurfiwyd hefyd siambr masnach i ymladd dros fuddion masnachwyr lleol.
“Pan gyrhaeddais Blaenafon ym 1830, nid oedd yr un heol yn addas i unrhyw gerbyd, y cyfan oedd yma oedd pum capel, pedair siop, pum tŷ tafarn ac ychydig iawn o fythynnod [tua’r de ddwyrain] o’r gwaith.”(Cyfieithiad)
John Griffith Williams, arloeswr lleol, ar achlysur agor neuadd tref newydd ym 1862.